Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.
Bydd modd datblygu a phrofi aloiau dur newydd hyd at ganwaith yn gyflymach, gan ganiatáu i gynnyrch newydd gyrraedd y farchnad yn gynt, diolch i £7 miliwn o ariannu a gyhoeddwyd heddiw ar gyfer 'ffatri rithwir' newydd sy'n cael ei datblygu gan Brifysgol Abertawe, mewn partneriaeth â Tata Steel a WMG ym Mhrifysgol Warwig.
Dur yw'r deunydd strwythurol a ddefnyddir fwyaf helaeth yn y byd. Mae wrth wraidd sectorau gweithgynhyrchu mawr megis y diwydiant ceir, adeiladu, pecynnu ac amddiffyn. Mae'n hanfodol bwysig i seilwaith cenedlaethol megis trafnidiaeth, cyfathrebiadau ac ynni, ac ar gyfer diwydiannau uwch dechnoleg yr unfed ganrif ar hugain, o adeiladau ynni positif i dyrbinau gwynt a cherbydau trydan.
Yn y diwydiant dur modern, mae arloesi yn hollbwysig er mwyn cadw i fyny â gofynion cwsmeriaid a thechnolegau newidiol.
Y broblem, fodd bynnag, yw bod datblygu aloiau dur newydd yn gallu bod proses araf iawn, gyda llawer o wahanol gamau. Rhaid cynnal treialon drud ar gannoedd o dunelli o ddeunydd, yna caiff llawer ohono'i ailgylchu heb gael ei ddefnyddio.
Llun: profi samplau dur - Dr James McGettrick o Goleg Peirianneg, Prifysgol Abertawe
Mae Prifysgol Abertawe, Tata Steel a WMG ym Mhrifysgol Warwig, y mae ganddynt hanes hir o gydweithio ar ymchwil dur, wedi ennill ariannu gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) drwy'r fenter Prosperity Partnership i ddatrys y broblem hon.
Eu hateb yw cyfuno'r profi ffisegol â modelu cyfrifiadol i asesu cannoedd o samplau bach yn gyflym, gan gynnwys cryfder, priodweddau trydanol, priodweddau mecanyddol, gwydnwch a gwrthsafiad i rydu.
Gellir bwydo data profion i fodelau cyfrifiadol, gan eu gwneud yn fwy cywir fyth, gan ganiatáu ar gyfer rhagfynegiadau cynyddol well ar gyfer priodweddau terfynol y deunydd. Gellir archwilio aloiau addawol ar raddfa fwy ac yn fanylach.
Enw'r broses yw Prototeipio Aloiau Cyflym. I bob pwrpas, golyga y gellir cynnal llawer o'r profion mewn labordai ymchwil ac ystafelloedd delweddu – ffatri rithwir – yn hytrach na ffatri ddur.
Bydd yr ymagwedd hon yn gwneud gwahaniaeth enfawr:
- Gellir profi 100 o samplau yn yr amser mae'n cymryd i brofi un ar hyn o bryd
- Gall samplau fod yn fach iawn – ychydig gramau yn unig – lle gall fod angen hyd at 900 tunnell o ddeunydd ar gyfer profi ar hyn o bryd, ac mae angen ailgylchu hyd at 98% ohono, sy'n gost ychwanegol i'r busnes
- Yn gyffredinol, golyga y gellir gwneud cynnyrch dur gwell a mwy newydd i gwsmeriaid yn llawer cynt
- Mae angen dur newydd ar gyfer ceir sy'n rhatach ar danwydd, pecynnu di-blastig, adeiladau ynni positif a llawer o gymwysiadau eraill. Bydd hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr dur ysgogi arloesi ag anghenion y farchnad.
Llun: dur dan y microsgop
Mae'r ymagwedd newydd hon yn bosib oherwydd cyfranogiad y tri sefydliad yn y prosiect, yn ogystal â chefnogaeth yr EPSRC drwy'r fenter Prosperity Partnership. Drwy weithio gyda'i gilydd, gallant gynnig cyfuniad o arbenigedd, cyfarpar a gwybodaeth o'r farchnad er mwyn sicrhau bod y prosiect yn llwyddiant.
Dywedodd Yr Athro Steve Brown o Goleg Peirianneg, Prifysgol Abertawe:
"Mae arloesi wrth wraidd diwydiant dur yr unfed ganrif ar hugain. Mae'r prosiect hwn yn hwb enfawr i arloesi am ei fod yn cyflymu profi aloiau newydd yn sylweddol. Golyga y gall cynhyrchwyr dur greu cynnyrch newydd a gwell i'w cwsmeriaid yn llawer cynt.
Mae gennym arbenigedd ymchwil a chyfleusterau o safon fyd-eang yma yn Abertawe, a chysylltiadau cryf â Tata Steel a WMG Warwig. Rwy'n hyderus, felly, y bydd y bartneriaeth hon yn helpu i sicrhau bod ein diwydiant dur yn parhau i arwain arloesi."
Dywedodd Martin Brunnock o Tata Steel:
"Bydd y prosiect arloesol hwn yn ein helpu ni i gyflymu’r broses o ddatblygu duroedd cyffrous newydd i’n cwsmeriaid sy’n rhoi blaen cystadleuol iddynt.
Mae dur yn chwarae rôl hanfodol yn helpu i ddatrys heriau cymdeithasol mawr megis y trawsnewidiad i ynni a symudedd cynaliadwy, ac mae’n hanfodol y gallwn gadw’r cyflymder trwy’r datblygiad cynt o gynnyrch dur arloesol.”
Llun: Swyddfa Weithredol a'r Ystafell Ddosbarth, adeiladau ynni positif, sy'n creu mwy o ynni solar nag y mae'n ei ddefnyddio. Mae Tata Steel yn gweithio gyda SPECIFIC i ddatblygu'r prosiect
Canghellor y Trysorlys yn cyhoeddi cyllid gwerth £36 miliwn ar gyfer arloesedd ynni glân Prifysgol Abertawe
- Dydd Mawrth 25 Medi 2018 08.02 BST
- Dydd Mawrth 25 Medi 2018 08.20 BST
- Swyddfa Materion Cyhoeddus